Amodau a Thelerau Gwerthu

Diolch am ymweld â siop ar-lein Amgueddfa Cymru. Mae’r amodau a thelerau hyn yn ymwneud â gwerthu a phrynu nwyddau ar ein gwefan (“nwyddau”). Darllenwch yr amodau a thelerau yn ofalus cyn archebu unrhyw nwyddau oddi ar ein gwefan. Dylech ddeall eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr amodau a thelerau hyn wrth archebu unrhyw nwyddau.

  1. Amdanom ni

    Gwefan yw hon a weithredir gan Fentrau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig (“AOCC”), cwmni cyfyngedig preifat (rhif cwmni 2449244 a rhif TAW GB 783454110), sydd â swyddfa gofrestredig (a chyfeiriad masnachu) ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NP.

    Is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Amgueddfa Cymru yw AOCC. Dychwelir pob elw a wneir gan AOCC i Amgueddfa Cymru i helpu i gefnogi ei gwaith.

    Mae unrhyw gyfeiriad at “ni” yn yr amodau a thelerau hyn yn golygu AOCC.

  2. Ffurfio Contract

    Rhaid cyflwyno pob archeb am nwyddau ar-lein drwy gyfrwng ein gwefan. Mae eich archeb yn gynnig i ni i brynu’r nwyddau yn ôl yr amodau a thelerau hyn ac mae’n amodol ar gael ei derbyn gennym. Dim ond pan fyddwn yn anfon ebost i gadarnhau bod y nwyddau wedi’u hanfon (y “Cadarnhâd”) fydd eich archeb yn cael ei derbyn gennym a chytundeb yn cael ei ffurfio rhyngoch chi a ni i brynu’r nwyddau (“Contract”).

  3. Argaeledd

    3.1 Mae’r holl nwyddau a gynigir ar y wefan yn dibynnu ar beth sydd ar gael. Os nad yw’r nwyddau mewn stoc byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy anfon ebost i’r cyfeiriad ebost a roddwyd gennych a chynnig dyddiad dosbarthu newydd neu ad-daliad llawn o fewn deng niwrnod ar hugain (30).

    3.2 Os na allwn gyflenwi’r nwyddau, neu unrhyw rai ohonynt, am ryw reswm y tu hwnt i’n gallu rhesymol byddwn yn eich hysbysu cyn gynted â phosibl drwy anfon ebost i’r cyfeiriad ebost a roddwyd gennych.

    3.3 Disgrifiadau cyffredinol yw’r manylion am y nwyddau ar y wefan ac nid oes bwriad iddynt fod yn rhwymedigol.

  4. Pris a thalu

    4.1 Y prisiau sy’n daladwy am y nwyddau yw’r prisiau a nodir ar ein gwefan ar yr adeg y byddwch yn archebu (y “Pris”). Nodir y Pris mewn £ (punnoedd) ac mae’n cynnwys TAW ond nid yw’n cynnwys ein costau ni am ddosbarthu’r nwyddau a bydd y rhain yn cael eu pennu yn ôl y cyfraddau sy’n briodol ar y dyddiad y byddwch yn archebu (gallwch weld manylion ein cyfraddau postio yma

    4.2 Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl brisiau ar ein gwefan yn gywir. Er hynny, os oes camgymeriad yn y pris, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy anfon ebost atoch ac:

    1. yn ad-dalu’r gwahaniaeth os yw’r pris cywir yn is
    2. os yw’r pris cywir yn uwch, bydd gennych ddewis rhwng:

      1. canslo’r archeb a byddwn yn cynnig ad-daliad i chi, neu
      2. gadarnháu’r archeb am y pris cywir.

    Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i werthu nwyddau i chi am y pris anghywir.

    4.3 Rydym yn cadw’r hawl i newid y Pris ar unrhyw adeg i adlewyrchu unrhyw gynnydd yn ein costau sy’n deillio o resymau y tu hwnt i’n rheolaeth; yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw newid yng nghost deunyddiau, cludiant, llafur neu gostau cynhyrchu eraill, tollau neu drethi. Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw gynnydd o’r fath yn y pris cyn dosbarthu’r nwyddau a gallwch ganslo archeb (neu ran ohoni) sy’n ymwneud â nwyddau o’r fath ar unrhyw adeg cyn i chi dderbyn y nwyddau heb i chi orfod talu unrhyw gostau am wneud hynny.

    4.4 Bydd y Pris ynghyd â’r gost ddosbarthu briodol yn daladwy gennych ar yr adeg y byddwch yn archebu’r nwyddau.

    4.5 Gallwch dalu ar-lein drwy ddefnyddio unrhyw un o’r cardiau debyd neu gredyd canlynol: JCB, Solo, Switch (UK), Mastercard, Visa, Visa Delta, Visa Electron a Visa Purchasing. Gwneir y taliad drwy gyfrwng system “Paypal”.

  5. Dosbarthu

    5.1 Caiff y nwyddau eu dosbarthu i’r cyfeiriad a roddwyd gennych ar y ffurflen archebu.

    5.2 Byddwn yn ymdrechu i ddosbarthu’r nwyddau i chi fel a ganlyn:

    1. i gyfeiriad yn y DU o fewn saith (7) diwrnod gwaith (h.y. dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio penwythnosau a gwyliau cyhoeddus y DU) wedi i chi eu harchebu
    2. i gyfeiriad yn yr UE (ac eithrio’r DU) o fewn deg (10) diwrnod gwaith wedi i chi eu harchebu, a
    3. i gyfeiriad y tu allan i’r UE o fewn pymtheg (15) diwrnod gwaith wedi i chi eu harchebu.

    5.3 Amcangyfrif yn unig fydd unrhyw ddyddiadau dosbarthu a roddir gennym ac ni fyddwch â hawl i wrthod archeb hwyr na thrin archeb hwyr fel tor-cytundeb ar ein rhan ni.

    5.4 Ni fyddwn yn dosbarthu i gyfeiriad blwch post. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i beidio â dosbarthu i gyfeiriad swyddfa bost gymunedol. Rhaid bod gan y cyfeiriad a roddir gennych god post dilys.

    5.5 Os nad oes neb gartref yn y cyfeiriad pan gaiff y nwyddau eu dosbarthu, gall y gyrrwr gadw’r nwyddau a gadael nodyn i’ch hysbysu ei fod wedi ceisio eu dosbarthu. Os bydd rhaid i ni ddychwelyd er mwyn dosbarthu’r nwyddau ar adeg arall efallai y bydd rhaid i chi dalu cost dosbarthu ychwanegol.

    5.6 - Bydd yr holl nwyddau’n cael eu gyrru drwy’r Post Brenhinol, dosbarth cyntaf.

  6. Perchnogaeth o’r nwyddau

    6.1 Bydd perchnogaeth o’r nwyddau’n trosglwyddo i chi pan fyddwch yn eu derbyn. Ni chaiff y nwyddau eu hanfon nes i ni dderbyn taliad llawn o’r Pris, ynghyd ag unrhyw gostau dosbarthu sy’n daladwy gennych.

    6.2 Bydd risg o niwed neu golli’r nwyddau’n trosglwyddo i chi pan fyddwch yn eu derbyn.

  7. Tollau mewnforio

    7.1 Os ydych yn archebu nwyddau oddi ar ein gwefan i’w dosbarthu y tu allan i’r DU, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu tollau a threthi mewnforio sy’n daladwy wrth i’r nwyddau gyrraedd y cyfeiriad a nodwyd gennych. Chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw dollau a threthi o’r fath. Nodwch nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y costau hyn ac ni allwn ragweld y swm. Cysylltwch â’ch swyddfa dollau leol am wybodaeth bellach cyn archebu.

    7.2 Hefyd nodwch fod rhaid i chi gydymffurfio â holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol y wlad lle bydd y cynnyrch yn cael ei anfon. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw dorcyfraith o’r fath gennych chi.

  8. Polisi dychwelyd nwyddau

    8.1 Rydym yn gweithredu polisi dychwelyd nwyddau ‘dim dadlau’ fel a ganlyn:

    1. Gallwch ganslo Contract am unrhyw reswm o fewn pedwar diwrnod ar ddeg (14) i dderbyn eich nwyddau. O dan amgylchiadau o’r fath byddwch yn derbyn ad-daliad llawn o’r Pris a dalwyd am y nwyddau yn amodol ar eich cydymffurfiaeth â’n polisi dychwelyd nwyddau (fel y nodir yng nghymal 9).
    2. Er mwyn canslo Contract, rhaid i chi ein hysbysu ni’n ysgrifenedig (yn datgan y rheswm dros ddychwelyd y nwyddau) a dychwelyd y nwyddau yn yr un cyflwr ag yr oeddynt pan gawsoch nhw, heb eu defnyddio ac yn eu pecyn gwreiddiol ynghyd â’r anfoneb wreiddiol ar eich cost a’ch risg eich hun o fewn pedwar diwrnod ar ddeg (14) i dderbyn y nwyddau.
    3. Yr ydych dan rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd gofal rhesymol o’r nwyddau tra byddant yn eich meddiant a dylech anfon y nwyddau yn ôl fel dosbarthiad a gofnodwyd at Mentrau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP fel bod gennych brawf eich bod wedi eu postio, gan na allwn dderbyn cyfrifoldeb am nwyddau sy’n cael eu colli neu eu difrodi wrth gael eu cludo. Os methwch â chydymffurfio â’r rhwymedigaeth i ddychwelyd y nwyddau yn yr un cyflwr ag yr oeddynt pan gawsoch nhw, y ni fydd yn penderfynu a ddylech gael unrhyw ad-daliad o gwbl.
    4. Os na ddychwelwch y nwyddau o fewn yr amser a nodwyd uchod, byddwn yn ystyried eich bod wedi derbyn y nwyddau ac ni fydd hawl gennych i ad-daliad.

    8.2 Nid oes unrhyw beth o fewn yr amodau a thelerau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.

  9. Ad-daliadau/nwyddau diffygiol

    9.1 Os dychwelwch nwyddau atom am eich bod wedi canslo’r Contract (yn unol â chymal 8), byddwn yn prosesu’r ad-daliad sy’n ddyledus i chi cyn gynted ag sy’n bosibl, ac ym mhob achos, o fewn deng niwrnod ar hugain (30) i dderbyn y nwyddau a ddychwelwyd. Os digwydd hyn, byddwn yn ad-dalu Pris y nwyddau’n llawn (ac eithrio costau postio). Ni allwn gynnig ad-daliad am glustdlysau ar gyfer tyllau clustiau oni bai eu bod yn ddiffygiol.

    9.2 Os dymunwch dderbyn ad-daliad am fod y nwyddau’n ddiffygiol, rhaid i chi ddychwelyd y nwyddau atom yn yr un cyflwr ag yr oeddynt pan gawsoch nhw o fewn wyth niwrnod ar hugain (28) i dderbyn y nwyddau. Byddwn yn archwilio’r nwyddau a ddychwelwyd, ac yn eich ebostio i roi gwybod i chi a ydym yn cytuno fod y nwyddau’n ddiffygiol o fewn cyfnod rhesymol o amser. Os cytunwn fod y nwyddau’n ddiffygiol, byddwn fel rheol yn prosesu’r ad-daliad a fydd yn ddyledus i chi cyn gynted â phosibl ac ym mhob achos o fewn deng niwrnod ar hugain (30) i’r dyddiad yr anfonwyd ebost atoch yn cadarnháu fod hawl gennych i ad-daliad a byddwn yn ad-dalu’r gost ddosbarthu am anfon y nwyddau atoch a chost dychwelyd y nwyddau diffygiol atom yn ogystal â’r Pris.

  10. Diogelwch a phreifatrwydd

    11.1. Nid yw PayPal yn rhannu eich manylion ariannol ag Amgueddfa Cymru. Mae PayPal yn defnyddio'r systemau diogelwch a gwarchod rhag twyll gorau i ddiogelu eich manylion ariannol.

    11.2. Nid ydym yn cadw manylion cardiau credyd nac yn rhannu manylion cwsmeriaid gyda phartïon eraill.

  11. Cyfyngiadau atebolrwydd

    11.1 Nid oes unrhyw beth yn yr un o’r amodau hyn:

    1. sy’n cyfyngu ar ein hatebolrwydd o dan ran 1 Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987 nac ar gyfer marwolaeth neu anaf personol a achosir drwy ein hesgeulustod ni, neu
    2. sy’n effeithio ar eich hawliau o dan Adrannau 12 i 15 Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 (fel y’i diwygiwyd) nac unrhyw hawliau statudol eraill sydd gennych fel defnyddiwr.

    11.2 Ni fyddwn yn atebol i chi am:

    1. unrhyw ddatganiad a wnaed (onbai ei fod yn dwyllodrus)
    2. unrhyw golled, cost neu wariant anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol sy’n deillio o gyflenwi’r nwyddau neu’n gysylltiedig â hynny.

    11.3 Ac eithrio mewn cysylltiad â marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod ni, ni fydd ein hatebolrwydd llwyr sy’n deillio o’r Contract neu’n gysylltiedig ag ef yn uwch na’r Pris mewn unrhyw achos.

  12. Digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth

    Os na allwn gyflawni ein rhwymedigaethau o dan y Contract yn sgil digwyddiad neu amgylchiad sydd y tu hwnt i’n rheolaeth yn cynnwys, er enghraifft, pan na fydd deunyddiau neu eitemau eraill ar gael gan ein cyflenwyr, ni ystyrir diffyg o’r fath fel achos o dorri rhwymedigaeth a/neu Gontract nes y daw amser (os daw o gwbl) y gallwn gyflawni’r rhwymedigaethau hynny.

  13. Terfynu

    Heb leihau effaith unrhyw hawliau eraill a allai fod gennych naill ai o dan yr amodau hyn neu mewn cyfraith, os ydych yn:

    1. torri unrhyw ddarpariaethau’r Contract, neu
    2. yn mynd yn fethdalwr

    bydd gennym hawl i derfynu’r Contract drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig atoch.

  14. Cytundeb llawn

    14.1 Mae’r amodau a thelerau hyn ac unrhyw ddogfen y cyfeirir yn benodol ati ynddynt yn cynrychioli’r cytundeb llawn rhyngom mewn perthynas â chynnwys unrhyw Gontract ac yn disodli unrhyw drefniant neu ddealltwriaeth flaenorol rhyngom, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

    14.2 Rydym ni a chi’n cydnabod, drwy’r Contract hwn, nad ydym ni na chi wedi dibynnu ar unrhyw gyflwyniad, ymrwymiad nac addewid a roddwyd gan y naill neu’r llall ohonom neu a fo’n ymhlyg mewn unrhyw beth a ddywedwyd neu a ysgrifenwyd mewn trafodaethau rhyngom ni a chi cyn y cyfryw Gontract ac eithrio’r hyn a nodir yn benodol yn yr amodau a thelerau hyn.

  15. Hawl i amrywio’r amodau a thelerau hyn

    15.1 Mae gennym hawl i ddiwygio a newid yr amodau a thelerau hyn o dro i dro i adlewyrchu newidiadau yn amodau’r farchnad sy’n effeithio ar ein busnes, newidiadau mewn technoleg, dulliau talu, cyfreithiau perthnasol a gofynion rheoleiddiol a newidiadau yng ngalluoedd ein system.

    15.2 Byddwch yn ddarostyngedig i’r amodau a thelerau sydd mewn grym pan fyddwch yn archebu nwyddau gennym, onibai fod angen newid yr amodau a thelerau hyn trwy gyfraith neu awdurdod llywodraethol (ac mewn amgylchiadau o’r fath bydd yn berthnasol i archebion a wnaed gennych cyn hyn), neu os byddwn yn eich hysbysu am newid i’r amodau a thelerau cyn i ni anfon y Cadarnhâd atoch (ac os felly, bydd gennym hawl i gymryd eich bod wedi derbyn y newid i’r amodau a thelerau oni fyddwch yn ein hysbysu i’r gwrthwyneb o fewn saith (7) diwrnod gwaith i dderbyn y nwyddau).

  16. Hawliau trydydd parti

    Nid yw’n fwriad gennym ni, na gennych chithau, i unrhyw un o’r amodau hyn fod yn orfodol o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Parti) 1999 neu fel arall, gan unrhyw berson nad yw’n barti i’r Contract.

  17. Cyfraith lywodraethol ac awdurdodaeth

    17.1 Caiff yr amodau hyn a’r Contract eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

    17.2 Os bydd llys neu awdurdod cymwys arall yn barnu fod unrhyw un o’r amodau hyn (neu ran ohonynt) yn annilys, yn ddi-rym neu’n anorfodadwy, caiff ei ddileu a bydd yr amodau sy’n weddill yn parhau yn eu llawn rym ac effaith a lle bo angen, cânt eu newid i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn eu rhoi ar waith.

  18. Sylwadau neu gwynion

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion cysylltwch â ni drwy ebost neu ffoniwch ni ar 029 2057 3155.