Cwestiynau Cyffredin

Pryd fydda i'n derbyn fy archeb?

Ein nod yw dosbarthu eich archeb o fewn 5 diwrnod gwaith i'r DU, 8 diwrnod gwaith i'r Undeb Ewropeaidd a 14 diwrnod gwaith i weddill y byd.

Rydw i wedi newid fy meddwl ac am ddileu fy archeb.

s hoffech chi ddileu archeb cyn iddo gael ei ddosbarthu e-bostiwch siop@amgueddfacymru.ac.uk. Byddwn wedyn yn eich ad-dalu'n llawn.

Alla i ddychwelyd fy archeb?

Os ydych chi wedi newid eich meddwl ac am ddychwelyd eich archeb e-bostiwch ni ar siop@amgueddfacymru.ac.uk. Gallwch ddychwelyd nwyddau sydd yn eu cyflwr gwreiddiol o fewn 14 diwrnod gwaith a chael ad-daliad. Dychwelwch y nwyddau at: Mentrau Amgueddfeydd ac Orielau Cymru Cyfyngedig, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP.

Beth alla i wneud os yw'r nwyddau yn cyrraedd wedi'u niweidio neu ddim yn gweithio?

Byddwn yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod eich archeb yn cyrraedd yn ddiogel, ond os bydd yn eich cyrraedd wedi ei niweidio byddwn yn ei gyfnewid am un newydd neu yn eich ad-dalu'n llawn.

Oes rhaid i fi gael cyfri PayPal i archebu?

Nac oes. Ar ôl clicio 'Hoffwn archebu' dewiswch 'Pay with a debit or credit card' er mwyn cwblhau eich archeb.

Ydych chi'n dosbarthu i gyfeiriadau y tu hwnt i'r DU?

Ydyn. Gallwch weld rhestr llawn o gostau postio yma.