Blanced Amgueddfa Wlân Cymru

  • Gostyngiad
  • Pris arferol £120.00

Dyluniwyd a gwehyddwyd y flanced brydferth hon yn Amgueddfa Wlân Cymru, gan ddwyn ysbrydoliaeth o flanced yng nghasgliad yr Amgueddfa.

Mae wedi'i gwneud o wlân pur a'i gwehyddu ar wŷdd Dobcross traddodiadol mewn lliw llwyd ysgafn gyda streipiau ac ymylon glas.

Mae’r flanced hon yn ffrwyth cydweithio rhwng crefftwyr prentisiaeth Amgueddfa Wlân Cymru a Daniel Harris o'r London School of Cloth. Sefydlodd Daniel y London School of Cloth yn 2011 ar ôl darganfod gwŷdd yng nghefn gwlad Cymru. Ar ôl datgymalu ac ailadeiladu'r gwŷdd, agorodd Daniel felin meicro gyntaf Llundain, ac mae wedi bod yn fraint i'r tîm weithio gyda Daniel wrth iddo rannu ei sgiliau, ei wybodaeth a’i arbenigedd.

159cm x 228cm gan gynnwys y rhimynnau.

Yn cynnwys treth.