Llewyrch – Oes Aur Cerameg yng Nghymru

  • Gostyngiad
  • Pris arferol £19.99

Eich cyfle i fwynhau uchafbwyntiau casgliad Amgueddfa Cymru o cerameg hanesyddol.

Mae'r llyfr prydferth hwn yn edrych ar y cyfnod honno rhwng y 1760au a'r 1920au pan oedd grŵp bychan o arloeswyr yn ne Cymru yn defnyddio eu talent, angerdd ac arian i greu crochenwaith a phorslen o fri, a rhoi'r enwau Abertawe, Nantgarw a Llanelli ar y map.

Dysgwn am eu hymdrechion gyda’r prosesau a deunyddiau – rhai yn llwyddiannus, eraill yn fethiant llwyr. A gyda ffotograffiaeth newydd, manwl, lliw-llawn, cawn ddathlu hefyd sgiliau hynod yr artistiaid a fu’n addurno’r gweithiau mor gywrain. Efallai bydd rhai o'r darnau anhygoel yma dal yn gyfarwydd i chi heddiw.

Gyda rhagair gan Lowri Davies, sydd yn taflu llygad cyfoes dros y casgliad cenedlaethol o cerameg hanesyddol Cymreig.

ISBN: 978-0-72-000656-8

Dyddiad Cyhoeddi 2022

Cyhoeddwr: Llyfrau Amgueddfa Cymru/National Museum Wales Books, Cardiff

Fformat: Clawr Meddal,160 tudalen

Iaith: Cymraeg

Yn cynnwys treth.