Paentiwyd y portread o Catrin o Ferain (Mam Cymru) gan Adriaen van Cronenburgh yn 16eg ganrif a dyma ysbrydolodd ein casgliad gemwaith newydd. Mae’r dylunydd gemwaith Kate Dumbleton wedi defnyddio manylion o’r portread, gan gynnwys gwisg Catrin, ei llyfr gweddi a’r penglog mae’n pwyso arno, er mwyn creu cyfres gref a dynamig o emwaith mewn cymysgedd o fetelau, onics a garnedau. Crëwyd y swyndlws penglog sy’n amlwg yn y gyfres gan Kate a’r dylunydd Russell Lownsborough, sydd wedi gweithio gyda Vivienne Westwood ymhlith eraill.
Hyd y gadwyn 355mm
Mesuriadau’r penglog 18mm
Yn cynnwys treth.