Dyluniwyd
a gwehyddwyd y flanced brydferth hon yn Amgueddfa Wlân Cymru, gan ddwyn
ysbrydoliaeth o flanced yng nghasgliad yr Amgueddfa.
Mae wedi'i gwneud o wlân pur a'i gwehyddu ar
wŷdd Dobcross traddodiadol mewn lliw llwyd ysgafn gyda streipiau ac ymylon
glas.
Mae’r flanced hon yn ffrwyth cydweithio rhwng
crefftwyr prentisiaeth Amgueddfa Wlân Cymru a Daniel Harris o'r London School
of Cloth. Sefydlodd Daniel y London School of Cloth yn 2011 ar ôl darganfod
gwŷdd yng nghefn gwlad Cymru. Ar ôl datgymalu ac ailadeiladu'r gwŷdd, agorodd
Daniel felin meicro gyntaf Llundain, ac mae wedi bod yn fraint i'r tîm weithio
gyda Daniel wrth iddo rannu ei sgiliau, ei wybodaeth a’i arbenigedd.