Celf drwy Lygad Craff

  • Gostyngiad
  • Pris arferol £9.99

Ychydig wyddai cyfeillion a chydweithwyr John Gibbs am ehangder y gweithgareddau casglu celf oedd wrth galon ei fywyd, a gwyddai'r byd celf llai fyth. Wrth brynu gweithiau celf ar gyfer sefydliadau cyhoeddus ac addysg, yn ogystal ag ar gyfer eu teulu eu hunain, gan gynnwys y plant lleiaf, roedd John a'i wraig Sheila yn herio ein syniad o gasglu. Aethant ati i greu un o'r casgliadau hyderus cyntaf o gelf Gymreig gyfoes, ac i ddangos gwerth celf fodern i'r ffydd Gristnogol. Mae'r casgliadau a grëwyd ganddynt yn cynnwys gweithiau gan Ceri Richards, Lucian Freud a Paul Nash, a phob un wedi ei ddewis yn bwrpasol i'n hannog ni i werthfawrogi grym celf.

Author: Wakelin, Peter

ISBN: 0 7200 0555 8

Language: Welsh and English
Yn cynnwys treth.